2014 Rhif 109 (Cy. 9)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Rhagnodi Cyffuriau Etc.) (Cymru) (Diwygio) 2014

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Rhagnodi Cyffuriau Etc.) (Cymru) 2004 (“y prif Reoliadau”) sy’n gwneud darpariaeth o ran y cyffuriau, y meddyginiaethau neu’r sylweddau eraill y caniateir eu harchebu ar gyfer cleifion wrth ddarparu gwasanaethau meddygol o dan gontract gwasanaethau meddygol cyffredinol o fewn ystyr adran 42 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.

Mae rheoliad 2 yn gwneud diwygiadau i’r tabl yn Atodlen 2 i’r prif Reoliadau (cyffuriau neu feddyginiaethau i’w harchebu o dan amgylchiadau penodol yn unig) sy’n cyfyngu ar yr amgylchiadau pan ganiateir archebu rhai cyffuriau a meddyginiaethau a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl ar gyfer y categori o gleifion a ddisgrifir yng ngholofn 2 o’r tabl at y diben a bennir yng ngholofn 3 o’r tabl. Mae gwall teipograffyddol yn y pennawd i’r Atodlen wedi ei gywiro ac mae’r cofnod yn y tabl sy’n ymwneud â rhai cyffuriau penodedig y caniateir eu harchebu ar gyfer trin camweithredu ymgodol wedi ei ddiwygio er mwyn egluro y caniateir archebu unrhyw gyffur o’r fath hefyd ar gyfer unrhyw glaf at ddiben trin cyflwr meddygol, ac eithrio camweithredu ymgodol, y mae’r cyffur a archebir mewn cysylltiad ag ef wedi cael awdurdodiad marchnata’r DU neu’r UE ar gyfer trin y cyflwr hwnnw.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

 

 


2014 Rhif 109 (Cy. 9)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Rhagnodi Cyffuriau Etc.) (Cymru) (Diwygio) 2014

Gwnaed                                20 Ionawr 2014

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       23 Ionawr 2014

Yn dod i rym                      14 Chwefror 2014

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 46(2), 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006([1]), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Rhagnodi Cyffuriau Etc.) (Cymru) (Diwygio) 2014 a deuant i rym ar 14 Chwefror 2014.

(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Rhagnodi Cyffuriau Etc.) (Cymru) 2004

2.(1) Mae Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Rhagnodi Cyffuriau
Etc.) (Cymru) 2004([2]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn Atodlen 2 (cyffuriau neu feddyginiaethau i’w harchebu o dan amgylchiadau penodol yn unig)—

(a)     yn y pennawd i’r Atodlen, yn lle “on” rhodder “or”;

(b)     yng ngholofn 1 o’r tabl (cyffuriau), ar gyfer trin camweithredu ymgodol, hepgorer—

                           (i)    “(Caverject), (MUSE), (Viridal)”,

                         (ii)    “(Uprima)”,

                       (iii)    “(Erecnos)” (yn y naill le a’r llall lle y mae’n ymddangos),

                        (iv)    “(Viagra)”,

                          (v)    “(Cialis)”, a

                        (vi)    “(Levitra)”;

(c)     yng ngholofn 2 o’r tabl (claf)—

                           (i)    ar ddechrau’r cofnod sy’n ymwneud â chyffuriau ar gyfer trin camweithredu ymgodol, mewnosoder “(1) The following patients with erectile dysfunction—”, a

                         (ii)    ar ddiwedd paragraff (g) o’r cofnod hwnnw, mewnosoder—“;

(2) Any patient”; a

(d)     yng ngholofn 3 (cyflwr), gyferbyn â “(2) Any patient” yng ngholofn 2, mewnosoder y geiriau “Treatment of a condition other than erectile dysfunction, in respect of which the drug ordered is in receipt of a UK or EU marketing authorisation for the treatment of that condition”.

 

 

Mark Drakeford

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

 

20 Ionawr 2014



([1])           2006 p.42.

([2])           O.S. 2004/1022 (Cy.119); mae’r Rheoliadau hyn wedi cael eu diwygio gan O.S. 2005/366 (Cy.32), O.S. 2009/1977 (Cy.176), O.S. 2009/1838 (Cy.166), O.S. 2011/1043, O.S. 2012/1916, ac O.S. 2013/683 (Cy.81).